DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

TEITL

 

Rheoliadau Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 (Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

DYDDIAD

 

14 Mawrth 2019  

 

GAN

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

 

Rheoliadau Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 (Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio:

Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wasanaethau trafnidiaeth teithwyr cyhoeddus ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

 

Mae fy natganiad ar 25 Ionawr am Reoliadau Cymorth Gwladwriaethol (Ymadael â'r UE) 2019 yn nodi barn Llywodraeth Cymru bod cymorth gwladwriaethol yn fater datganoledig ac nad yw wedi'i gadw'n ôl o dan Atodlen 7A Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Nid yw Llywodraeth y DU o'r un farn ac ni wnaeth ofyn o'r herwydd am ganiatâd Gweinidogion Cymru o dan delerau'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar gyfer Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol (Ymadael â'r UE) 2019.

 

Mae'n safbwynt ar gymorth gwladwriaethol yn effeithio ar Reoliadau Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 (Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019. Mae Rheoliad 1370/2007 yn pennu'r amodau ar gyfer digolledu gweithredwyr rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus (PSO) am y costau y maent yn eu hysgwyddo wrth gynnal eu rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus. Mae Rheoliad 1370 yn darparu ar gyfer eithrio'r sector rhag y rheolau cyffredinol ar gymorth gwladwriaethol (gwasanaethau trafnidiaeth teithwyr cyhoeddus ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd), gan ryddhau'r awdurdodau cyhoeddus rhag gorfod cael cymeradwyaeth cymorth gwladwriaethol ymlaen llaw gan y Comisiwn bob tro y telir iawndal i weithredwr gwasanaeth cyhoeddus, cyn belled â bod yr iawndal yn cydymffurfio â gofynion Rheoliad 1370/2007.

 

Diben y diwygiadau

 

Mae Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 23 Hydref 2007 ar wasanaethau trafnidiaeth teithwyr cyhoeddus ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd ("Rheoliad 1370/2007") yn cynnwys nifer o ddarpariaethau a fydd yn ddiffygiol pan ddaw'r Rheoliad yn gyfraith yr UE a gadwyd ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Pwrpas y diwygiadau hyn yw cywiro'r diffygion hyn. Mae'r offeryn yn cynnwys hefyd ddarpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio'n effeithiol ar ôl y diwrnod ymadael. 

 

Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gydag ef, sy'n nodi effaith y diwygiad hwn i’w gweld yma: https://www.gov.uk/eu-withdrawal-act-2018-statutory-instruments/the-regulation-ec-no-1370-2007-public-service-obligations-amendment-eu-exit-regulations-2019

 

Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mae'r offeryn yn darparu ar gyfer arbed Erthygl 5 o Reoliad 1370/2007 gan ddefnyddio'r pwerau a roddir yn adran 23(6) a pharagraff 23(3) Atodlen 7 Deddf yr UE (Ymadael) 2018. Y mae wedyn yn darparu bod Erthygl 5 ynghyd â gweddill y Rheoliad yn "gyfraith yr UE a gadwyd", gan ddefnyddio'r pŵer ym mharagraff 23(5) Atodlen 7.

 

Mae Erthygl 5 yn rhoi pŵer cyfyngedig i ddyfarnu masnachfreintiau'n uniongyrchol heb gystadleuaeth gaffael lawn.  Darpariaeth sy'n benodol i'r sector hwn yw hon, sy'n adlewyrchu'r angen i sicrhau parhad trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd brys. Fodd bynnag, oherwydd y gydberthynas rhwng geiriad Erthygl 8 o Reoliad 1370/2007 (fel y'i diwygiwyd yn ddiweddar gan Reoliad (UE) 2016/2338) ac adran 3(3) Deddf yr UE (Ymadael) 2018, ni fydd Erthygl 5 yn gyfraith yr UE a gadwyd o dan adran 3 Deddf yr UE (Ymadael) 2018.

 

Mae Adran 3 Deddf yr UE (Ymadael) 2018 yn ymgorffori deddfwriaeth uniongyrchol yr UE cyn belled â'i bod yn weithredol ("operative") yn union cyn y diwrnod ymadael. Tan 24 Rhagfyr 2017, roedd Erthygl 5 yn weithredol yn unol ag ystyr Deddf yr UE (Ymadael) 2018, ond nid oes gorfodaeth ar aelod-wladwriaethau i gydymffurfio'n llawn â'i thelerau tan 3 Rhagfyr 2019. Fodd bynnag, yn sgil y diwygiad i Reoliad 1370/2007 a ddaeth i rym ar 24 Rhagfyr 2017, newidiwyd geiriad y ddarpariaeth drosiannol berthnasol yn Erthygl 8(2), gan ddarparu y dylai Erthygl 5 ond bod yn gymwys ("apply") o 3 Rhagfyr 2019. Ni fydd Erthygl 5 felly yn weithredol yn unol ag ystyr adran 3 Deddf Ymadael â'r UE ar y diwrnod ymadael.

 

Fodd bynnag, mae Erthygl 8(2) yn parhau i roi'r rhwymedigaeth ar awdurdodau cymwys i gydymffurfio'n raddol ag Erthygl 5 ac y caiff y ddarpariaeth "weithredol" ei chadw'n ôl mewn cyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael. Mae hyn yn creu bwlch yn y ddeddfwriaeth gan greu ansicrwydd cyfreithiol, gan y bydd gofyn i awdurdodau cymwys weithio i ateb gofynion nad ydynt wedi'u nodi yn ddeddfwriaeth. Felly. fe'i ystyrir yn briodol arbed Erthygl 5 i sicrhau bod Rheoliad 1370/2007 yn parhau i weithio'n effeithiol ac i gael gwared ar yr ansicrwydd hwn. Fel y nodwyd uchod, gwneir hyn trwy arbed Erthygl 5 fel "cyfraith yr UE a gadwyd" o dan adran 23(6) a pharagraff 23(3) a (5) Atodlen 7 Deddf Ymadael yr UE.

 

Mae'r offeryn hefyd yn cywiro diffygion technegol yn Erthygl 5 (fel cyfraith yr UE a gadwyd) o dan adran 8(1).

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

 

Nid oes gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y polisi sy’n gysylltiedig â'r diwygio, ac nid yw sylwedd y diwygiadau'n sensitif yn wleidyddol.

 

Fodd bynnag, ceir pryderon sylweddol ynghylch y trywydd y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu o dan Reoliadau Cymorth Gwladwriaethol (Ymadael â’r UE) 2019ynghyd â'r offeryn statudol cysylltiedig, gan gynnwys Rheoliadau Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 (Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019.

 

Serch hynny, rydym yn sylweddoli bod angen sicrhau bod y llyfr statud yn weithredol ar y diwrnod ymadael, ac yn cydnabod bod y cywiriadau i'r ddeddfwriaeth sy'n sail i drefn masnachfraint y rheilffyrdd a sefydlwyd gan yr OS hwn yn hanfodol er mwyn i'r gwasanaethau rheilffyrdd ar draws y DU allu parhau.

 

At hynny, mae trafodaethau'n mynd rhagddynt â swyddogion yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ddatblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer rhedeg system cymorth gwladwriaethol ar gyfer y DU yn gyfan.

 

Mae'n glir i ni fodd bynnag bod y terfynau amser sydd ar ein gwarthaf yn cyfyngu ar sgôp unrhyw negodi ar y pwnc cymhleth hwn sydd wedi para heb ei ddatrys ers blynyddoedd lawer. Rydym am fod yn bragmatig yn hyn o beth er mwyn diogelu pobl a chaniatáu'r OS am nad oes gwahaniaeth o ran polisi ac y bydd yn lleddfu’n pryderon. Nid yw hyn yn rhagfarnu'n safbwynt am gymhwysedd deddfwriaethol mewn cysylltiad â chymorth gwladwriaethol.